Arweinydd Dysgu & Addysgu

Company: Ysgol Bro Sannan
Apply on Partner’s Website
Location: Bargoed
Job Description:

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Rydyn ni’n recriwtio Arweinydd Dysgu & Addysgu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Oriau gwaith: 32.50 oriau yr wythnos

Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol

Lleoliad: Ysgol Bro Sannan

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o’n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.

Rydyn ni’n talu cyflog deniadol o £33,731 – £51,942 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Mae’r swydd hon yn denu TLR o £8,764 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol.

Mae’r Llywodraethwyr yn ymrwymedig i benodi arweinydd sydd:

  • yn arweinydd cadarn a theg;
  • yn gallu ysbrydoli staff brwdfrydig;
  • yn rhannu arfer dda yn rheolaidd;
  • yn gallu datblygu staff yn effeithiol;
  • yn gweithio’n dda o dan bwysau;
  • yn gallu cyfrannu’n dda at benderfyniadau strategol;
  • yn unigolyn gyda chefndir o addysgu rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweledigaeth glir ac ymrwymiad i addysg o safon uchel;
  • yn unigolyn sydd â disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion;
  • yn unigolyn uchelgeisiol sy’n mwynhau her;
  • yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o’r Corff Llywodraethol a’r gymuned ehangach.
  • Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar Dydd Gwener 13eg o Dachwedd.

    Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:

  • Statws Athro Cymwysedig a wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar hyn o bryd.
  • Tystiolaeth o brofiad perthnasol llwyddiannus o addysgu, yn cynnwys ymarfer addysgu.
  • Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.
  • Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon Leol a chynlluniau disgownt i staff.

    I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

    Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jamie Hallett ar 01 44 3 82 80 00.

    Ffurflenni cais ar gael o wefan ETEACH neu’r ysgol.

    Mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

    Mae’r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

    Mae’r swydd hon yn denu TLR o £8,764 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol.

    Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

    Safeguarding Statement

    Ysgol Bro Sannan is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion….

    Posted: October 19th, 2026