Summary
Ceidwad
Fel Ceidwad, byddwch yn cyfrannu at wella cynefinoedd a mynediad i gefn gwlad ac arfordir Pen Llŷn. Gan weithio yn rhai o lefydd a gofodau mwyaf trawiadol y wlad, boed law neu hindda, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill wrth i chi wneud eich gorau i sicrhau bod tirweddau’n cael eu cyflwyno’n hyfryd ac ecosystemau’n ffynnu.
Cyflog: £27,612 y flwyddyn
Hyd y Contract: Parhaol
Oriau Gwaith: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, gan gynnwys rhai gyda’r nosau, penwythnosau a Gwyliau Banc.
Dyddiad Cyfweld Posibl: Dydd Iau 6ydd Awst
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
The English version of this advert can be found in the attachments
What it’s like to work here
O ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddarparu gwaith cadwraeth a chynnal a chadw ar draws yr ystad, o ffensio, atgyweirio cloddiau, adeiladu waliau sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Er mai Cwrt (Aberdaron) fydd y man sefydlog, mae’r gwaith wedi’i wasgaru ar draws safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, Ynys Môn, Glan Faenol a Phen Llŷn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol, gyda’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Does dim dwywaith y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn drawiadol iawn, ond gall amgylchiadau ar yr arfordir fod yn gyfnewidiol. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu eich cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.
Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr, neu’n hollol newydd i’r iaith, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen ar gyfer eich rôl ac er mwyn ymgysylltu gydag iaith a diwylliant Cymru fel rhan o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
What you’ll be doing
Wedi’ch arwain gan y Rheolwr Cefn Gwlad, byddwch yn blaenoriaethu a rheoli rhaglen waith effeithiol a hyblyg, gan gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni prosiectau bach a chanolig. Byddwch yn cefnogi eich cyd-geidwaid a chydweithwyr yn bennaf ar draws Ynys Môn a Phen Llŷn wrth ddeall gwaith cadwraeth a mynediad, ond ar adegau byddwch yn cefnogi cyd-geidwaid ar safleoedd eraill ar draws gogledd Cymru. Byddwch hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn rheoli harbwr Porthdinllaen, lle mae yna angorfa gydol y flwyddyn ar gyfer pysgotwyr ac angorfa dymhorol ar gyfer cychod eraill.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cynnal safonau ardderchog o ran edrychiad eiddo a’r gwaith cynnal a chadw ynddo, gan gyflawni amcanion cadwraeth yn llwyddiannus, a byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd proffesiynol cryf gyda phartneriaid allanol, cydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.
Byddwch yn cyfathrebu eich gwaith cadwraeth i ystod eang o gynulleidfaoedd, rhai newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywys a gwaith ymgysylltu gyda chymunedau lleol.
Who we’re looking for
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os:
The package
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ’I bawb,am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.
…
